Iechyd a maeth

Mae cig coch (cig eidion, cig oen a phorc) wedi bod yn bwnc llosg sy’n cael ei drafod yn y cyfryngau ers blynyddoedd a gall penderfynu beth i’w gredu fod yn eithaf dryslyd. Mae llawer o wybodaeth anghyson ar gael.

Gadewch i ni ddechrau gyda newyddion da a syml – gellir mwynhau cig coch fel Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc a gynhyrchir yng Nghymru fel rhan o ddiet cytbwys iach. Ewch yn eich blaen i ddarllen i ddysgu mwy.

Mae gwerth maethol cig coch yn drawiadol

Mae cig coch yn cynnwys amrywiaeth o faetholion buddiol gan gynnwys protein, brasterau iach, fitaminau a mwynau sy’n hanfodol ar gyfer iechyd da trwy gydol eich oes.

Nid yn unig bod cig coch yn llawn maetholion hanfodol ond mae ansawdd y maetholion yn golygu y gall y corff eu defnyddio’n effeithiol ac effeithlon iawn o’i gymharu â ffynonellau eraill.

Nid yw’n syndod nad oes yr un bwyd yn cynnwys yr holl faetholion sydd eu hangen arnon ni ar gyfer iechyd da, felly ceisiwch fwyta amrywiaeth eang o wahanol fwydydd bob dydd.

Mae cig coch mor hyblyg a blasus a gellir ei fwynhau fel rhan o ddiet cytbwys iach a gallwn wneud addasiadau hawdd i sicrhau ein bod yn dewis opsiynau iach.

Gwybodaeth am sut i goginio’n iach

Here are some quick and simple tips you can incorporate into your home cooking for healthier meals…

Dyma rai awgrymiadau cyflym a syml y gallwch eu cynnwys yn eich coginio cartref ar gyfer prydau iachach …

1. Torrwch unrhyw grofen a braster gweladwy i ffwrdd cyn coginio. Mae’r croen a’r grofen yn cynnwys mwy o fraster na’r cig ei hun. Mae’n bwysig ei dorri i ffwrdd cyn coginio yn hytrach nag ar ôl coginio gan fod y braster yn gallu toddi i mewn i’r cig wrth iddo goginio.

2. Griliwch y cig yn hytrach na’i ffrio neu ei rostio. Er enghraifft, mae golwythion porc wedi’u tocio sydd wedi’u grilio yn cynnwys tua thraean braster golwythion heb eu rhostio, tra bod stecen ffolen heb lawer o fraster yn cynnwys tua hanner braster stecen ffolen wedi’i ffrio gyda’r braster.

3. Os ydych chi’n rhostio cig, rhowch ef ar rac metel uwchben tun rhostio fel y gall y braster redeg i lawr a gellir ei sgimio i ffwrdd, gan adael sudd cig blasus i wneud eich grefi hyfryd!

4. Oeddech chi’n gwybod nad oes angen i chi ychwanegu braster neu olew ychwanegol wrth goginio cig, a gallwch chi ddraenio unrhyw fraster wrth goginio wrth wneud prydau sy’n defnyddio briwgig.

5. Mae tro-ffrio hefyd yn ffordd wych o goginio cig gan mai ychydig iawn o olew sy’n cael ei ddefnyddio, a gan ei fod yn coginio mewn munudau mae’r llysiau’n parhau i fod yn grensiog ac yn cadw eu daioni.

6. Wrth wneud caserolau sgimiwch y braster ar yr wyneb i ffwrdd cyn ei weini.

HYB Healthy Eating Poster WEL
Share This