Lolipops Cig Oen Cymru crensiog

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • Cytledi Cig Oen Cymru PGI, esgyrn wedi’u twtio
  • Olew i goginio
  • Halen a phupur

Ar gyfer y salsa:

  • 1 nionyn coch
  • 2 sialotsyn, neu 1 nionyn bach
  • ½ llwy de o halen môr
  • 2 lwy fwrdd o gaprys
  • 1 tsili coch, wedi’i dorri
  • 8 tomato eirin bach
  • 120ml o olew olewydd pur iawn
  • Llond llaw o bersli dail gwastad
  • Llond llaw o goriander
  • Llond llaw o fintys
  • 1 leim, croen a sudd
  • Pinsiad o siwgr

Ar gyfer y crwst lemwn crimp:

  • 150g o friwsion bara ffres
  • 30g o fenyn
  • 2 lemwn, croen

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2259 KJ
  • Calorïau: 614 kcals
  • Braster: 41 g
  • Sy’n dirlenwi: 28 g
  • Halen: 1.5 g
  • Haearn: 4.6 mg
  • Sinc: 2.2 mg
  • Protein: 33 g
  • Ffeibr: 4 g
  • Carbohydradau: 43 g
  • Sy’n siwgro: 13 g

Dull

  1. I wneud y salsa – cymysgwch yr holl gynhwysion am ychydig funudau mewn prosesydd bwyd neu, os ydych yn ei wneud â llaw, torrwch yr holl gynhwysion yn fân a’u cyfuno. Bydd y salsa’n cadw mewn jar wedi’i selio am ychydig ddyddiau.
  2. I wneud y crwst crensiog – toddwch y menyn mewn padell ffrio, ychwanegwch y briwsion bara a throwch dros wres cymedrol nes maent yn euraidd, yna ychwanegwch y croen lemwn. Gadewch iddo oeri.
  3. I baratoi’r cytledi – cynheswch olew mewn padell ffrio fawr ac ychwanegwch y cytledi. Ysgeintiwch halen a phupur drostynt a’u ffrio am 3-4 munud ar bob ochr.
  4. I weini: gorchuddiwch bob cytled â’r gymysgedd salsa ac yna’r briwsion crensiog.
Share This