Brisged Cig Eidion Cymru araf mewn saws cyfoethog a sticlyd

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 3 awr 20 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • Darn 1.5kg o frisged Cig Eidion Cymru PGI (heb ei rolio)
  • Sesnin
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn mawr, wedi ei blicio a’i sleisio
  • 4 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
  • 1 llwy fwrdd paprica wedi ei fygu
  • 1 llwy fwrdd sinamon mâl
  • 1 llwy fwrdd paprica
  • 1 llwy de powdr tsili mwyn
  • 2 lwy fwrdd siwgr brown meddal
  • 1 llwy fwrdd surop masarn
  • 1 llwy fwrdd saws soi golau
  • 1 leim, wedi ei dorri’n dalpiau
  • 500ml stoc cig eidion
  • 2 lwy fwrdd purée tomato

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 150°C / 130°C ffan / Nwy 2.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr. Sesnwch y brisged a’i roi yn yr olew poeth. Seriwch y cig ar bob ochr, a chael lliw brown braf ar y brisged.
  3. Tynnwch y brisged allan o’r badell a’i roi mewn hambwrdd pobi dwfn neu ddysgl caserol.
  4. Gan ddefnyddio’r un badell, ffriwch y winwnsyn a’r garlleg tan eu bod yn euraidd a’u rhoi yn yr hambwrdd pobi neu’r ddysgu caserol o gwmpas y brisged.
  5. Mewn powlen fechan, cymysgwch yr holl gynhwysion sych, ychwanegwch y surop masarn a’r saws soi a’u cymysgu’n bast llyfn. Taenwch y past dros dop ac ochrau’r brisged.
  6. Cymysgwch y purée tomato i mewn i’r stoc a’i arllwys yn ofalus o gwmpas ymyl yr hambwrdd pobi neu’r ddysgl caserol. Ychwanegwch y darnau leim.
  7. Gorchuddiwch gyda ffoil neu gaead a’i roi yn y ffwrn am ryw 2 awr a hanner – 3 awr.
  8. Pan fo’r cig yn frau, tynnwch y ffoil a chynyddu tymheredd y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6. Seimiwch y cig a’i roi’n ôl yn y ffwrn am 20 munud tan fod yr arwyneb yn grimp ac yn sticlyd. Gadewch i’r brisged orffwys am 10 munud.
  9. Draeniwch weddill y saws a’i dewychu os oes angen. Gweinwch gyda’r brisged wedi ei sleisio a’r coleslaw crenshlyd.

Awgrym: Gellir coginio’r rysáit mewn popty araf a sleisio neu rwygo’r cig eidion. Gellir rhwygo’r brisged sydd dros ben i’w ddefnyddio y diwrnod canlynol. Ymysg y ryseitiau addas eraill sydd ar ein gwefan mae: Sglodion brisged Cig Eidion Cymru llawn dop, Macaroni a chaws gyda Chig Eidion Cymru wedi’i dynnu, Calzone Cig Eidion Cymru (gellir defnyddio cig wedi ei rwygo neu fins), Pastai enchilada brisged wedi ei rwygo Cig Eidion Cymru a Pizzas bychain Cig Eidion Cymru.

Share This