Byrgers Cig Oen Cymru a chaws ffeta

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 12 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI
  • 2 llwy fawr mintys ffres, wedi ei dorri’n darnau
  • Pupur du
  • 75g caws ffeta, wedi ei falu
  • Guacamole

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 726 KJ
  • Calorïau: 174 kcals
  • Braster: 11.3 g
  • Sy’n dirlenwi: 2.4 g
  • Halen: 0.5 g
  • Haearn: 0.18 mg

Dull

  1. Cymysgwch y briwgig cig oen, y mintys ffres, y pupur du a’r caws ffeta mewn powlen, gan eu cyfuno’n dda gyda’i gilydd.
  2. Siapiwch 6 byrger maint canolig a’u coginio o dan gril a gynheswyd ynghynt neu farbeciw am ryw 12 munud neu tan eu bod wedi eu coginio’n drwyadl.
  3. Gweinwch mewn rholiau ciabatta wedi eu tostio, gyda thalp o guacamole parod, salad mawr tymhorol a phlat ochr o olewydd.
Share This