Byrgyr Cig Eidion Cymru gyda llysiau cudd

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI isel mewn braster (digon i 3-4 byrgyr mawr neu 6-8 byrgyr bach)
  • 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân
  • 1 foronen, wedi’i gratio
  • 1 pupryn coch bach, wedi’i dorri’n fân
  • ½ pen brocoli (6 blodigyn), wedi’u gratio
  • 1 wy bach, wedi’i guro
  • 1 llwy fwrdd o sos coch
  • ½ llwy de o berlysiau cymysg sych
  • ½ llwy de o bupur du mâl
  • Dyrnaid o friwsion bara ffres (os bydd angen)
  • Tafellau o gaws cheddar (dewisol)

Dull

Yn llawn blas ond hefyd llysiau cudd ar gyfer y rheiny sy’n ffyslyd am eu bwyd!

 

  1. Cymysgwch y briwgig a’r llysiau mewn powlen ac ychwanegu’r perlysiau a’r pupur a halen.
  2. Ychwanegwch y sos coch a hanner yr wy gan gymysgu’n dda. Ychwanegwch ragor o’r wy os bydd angen – bydd angen cymysgedd meddal ond cadarn er mwyn sicrhau bod y byrgyrs yn dal eu siâp (os bydd yn rhy ludiog, ychwanegwch rywfaint o’r briwsion bara).
  3. Siapiwch y cyfan yn fyrgyrs a rhowch nhw i oeri am 15 munud.
  4. Gellir coginio’r rhain ar blât solet y barbeciw, y popty neu’r gridyll, a hynny am 15-20 munud, yn dibynnu ar eu trwch. Rhowch gaws ar eu pennau ychydig cyn eu codi o’r gwres. Sicrhewch eu bod wedi cael eu coginio’n drwyadl yn y canol.
Share This