Cyri tatws melys Goaidd gyda Chig Oen Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 600g o Gig Oen Cymru PGI (coes, ysgwydd neu wddf), wedi’i ddeisio
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 1 nionyn, wedi’i sleisio
  • 2 ffon seleri, wedi’u sleisio
  • 4 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
  • 1 tsili coch, heb yr hadau ac wedi’i sleisio’n denau
  • ½ modfedd o sinsir ffres, wedi’i dorri’n fan
  • 3 llwy de o bowdwr garam masala
  • 2 lwy de o bowdwr tyrmerig
  • 1 llwy de o hadau ffenigl
  • 400ml tun o laeth coconyt
  • 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
  • 150ml o stoc llysiau neu gyw-iâr
  • 1 daten felys, wedi’i deisio
  • Halen a phupur
  • 1 leim, croen a sudd
  • Llond llaw o goriander ffres
  • Gweinwch gyda reis

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1035 KJ
  • Calorïau: 246 kcals
  • Braster: 10 g
  • Sy’n dirlenwi: 3.7 g
  • Halen: 0.7 g
  • Haearn: 2.9 mg
  • Sinc: 3.7 mg
  • Protein: 22.3 g
  • Ffeibr: 2.9 g
  • Carbohydradau: 18.5 g
  • Sy’n siwgro: 9.7 g

Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell fawr yna ychwanegwch y cig oen a’i ffrio nes ei fod wedi brownio. Ychwanegwch y nionyn, y garlleg, y sinsir, y seleri a’r tsili a ffriwch am 2 funud.
  2. Ychwanegwch y sbeisys a throwch am ychydig funudau. Ychwanegwch y llaeth coconyt, y stoc, y piwrî tomato a’r halen a’r pupur. Pan fydd wedi berwi, gorchuddiwch gyda chaead a mudferwch am 90 munud. Ychwanegwch fwy o stoc os oes angen.
  3. Ychwanegwch y tatws melys a pharhewch i goginio am 30 munud neu nes mae’r tatws yn feddal.
  4. I orffen – ychwanegwch y croen a’ sudd leim ac ysgeintiwch y coriander wedi’i dorri drosto.
Share This