Cytledi Cig Oen Cymru gyda menyn leim a sinsir

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 4 cytled neu olwyth lwyn Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 50g menyn wedi meddalu
  • ½ leim, y sudd a’r croen wedi ei ratio
  • 1 llwy fwrdd coesyn sinsir mewn surop, wedi ei dorri’n fân

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 3501 KJ
  • Calorïau: 846 kcals
  • Braster: 76.4 g
  • Sy’n dirlenwi: 40.2 g
  • Halen: 0.70 g
  • Haearn: 2.05 mg

Dull

  1. Coginiwch y cytledi cig oen o dan gril wedi ei gynhesu’n barod neu ar farbeciw poeth am 8-12 munud.
  2. Yn y cyfamser gwnewch y menyn. Cymysgwch y menyn meddal gyda chroen a sudd y leim, a’r coesyn sinsir wedi ei dorri’n fân. Rhowch lwyaid o’r menyn ar y cytledi cig oen a gadewch iddyn nhw oeri ychydig cyn eu gweini.
  3. Gweinwch gyda salad tatws newydd a llysiau tymhorol.
Share This