Hotpot Cig Oen Cymru a chaws pob

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 400g o weddillion Cig Oen Cymru PGI oer, ysgwydd wedi’i dynnu neu rhost
  • 2 genhinen ganolig, wedi’u sleisio
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i sleisio
  • 400ml o stoc (llysiau neu gig oen)
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 6-8 taten ganolig, wedi’u coginio a’u sleisio’n denau
  • 150g caws cheddar Cymreig
  • 4 llwy fwrdd o gwrw Cymreig
  • 1 llwy de (yn bentwr) o fwstard hadau cyfan

Dull

  1. Gwresogwch yr olew mewn padell ffrio. Ffriwch y cennin a’r winwns yn ysgafn hyd nes iddynt liwio.
  2. Ychwanegwch y cig oen a’r stoc. Poethwch hyd nes bo’r cig yn chwilboeth. Trosglwyddwch y cymysgedd i ddysgl bopty.
  3. Gorlapiwch y tatws wedi’u sleisio o gwmpas ymyl y ddysgl.

I wneud y caws pob:

  1. Cyfunwch y caws, y mwstard a’r cwrw i ffurfio past trwchus.
  2. Taenwch y past dros y tatws. Gosodwch o dan y gril am 10 munud, hyd nes iddo droi’n euraidd.
Share This