Madras Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 675g stêc palfais Cig Eidion Cymru PGI, wedi ei dorri’n giwbiau
  • Pupur a halen
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 2 winwnsyn, wedi eu plicio a’u sleisio
  • 1 pupur coch, wedi ei dorri’n giwbiau mân
  • 3 ewin garlleg, wedi eu malu
  • Gwraidd sinsir ffres (darn 3cm), wedi ei ratio
  • 1 llwy fwrdd tyrmerig mâl
  • 1 llwy fwrdd garam masala
  • 1 llwy de cwmin mâl
  • 1 tsili coch, wedi ei dorri’n fân
  • ½ llwy de haenau tsili
  • tun 400g o domatos wedi eu torri
  • 1 llwy fwrdd purée tomato
  • 400ml stoc cig eidion

I weini:

  • Iogwrt naturiol
  • Dail coriander ffres, wedi eu torri
  • Reis
  • Salad bychan o domato wedi ei dorri’n giwbiau bychain, ciwcymbr a winwnsyn coch

Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell fawr neu ddysgl caserol, ychwanegwch y cig eidion a’i ffrio tan ei fod yn frown. Ychwanegwch y pupur a’r halen, y winwns, y pupur, y garlleg, y sinsir a’r sbeisys a’u cymysgu’n ysgafn am funud neu ddau.
  2. Ychwanegwch y cynhwysion eraill a berwi’r cyfan. Gorchuddiwch gyda chaead neu ffoil a pharhau i goginio ar yr hob neu yn y ffwrn ar 180˚C / ffan 160˚C / Nwy 4. Coginiwch y cyfan a ryw 2 awr a hanner tan fod y cig eidion yn frau. Efallai y bydd angen ychwanegu rhagor o stoc.
  3. Rhowch y madras i mewn i fowlenni fesul llwyaid, gyda llwyaid o iogwrt ac ychydig o goriander wedi ei dorri drosto. Gweinwch y cyfan gyda reis a salad bychan o domato wedi ei dorri’n giwbiau bychain, ciwcymbr a winwnsyn coch.

Awgrym: Mae’r rysáit hon hefyd yn addas ar gyfer popty araf.

Share This