Pizzas bychain Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 12 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • Gwaelodion pizza bychain (gallwch ddefnyddio myffins bara wedi eu haneru, bara naan bychain, pitta, ac ati)
  • 350g mins Cig Eidion Cymru PGI
  • 2 lwy fwrdd purée tomato
  • 3 llwy fwrdd saws coch
  • ½ llwy de perlysiau cymysg sych
  • 100g caws, wedi ei ratio (Cheddar neu mozzarella)

Detholiad o lysiau a chynhwysion wedi eu torri i’w rhoi ar ben y pizzas, er enghraifft:

  • Pupurau
  • Madarch
  • Winwns
  • Tomatos bychain wedi eu haneru
  • Olewydd
  • Sleisys o salami

Dull

  1. Ffriwch y mins yn sych tan ei fod wedi brownio a choginio, gan ei gadw mewn talpiau bychain.
  2. Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
  3. Mewn powlen fechan, cymysgwch y saws coch, y purée a’r perlysiau gyda’i gilydd.
  4. Rhowch y gwaelodion bara ar hambwrdd pobi mawr. Taenwch ychydig o’r gymysgedd tomato ar bob gwaelod a rhoi’r caws, y mins wedi ei goginio a detholiad o’ch cynhwysion eraill ar eu pennau.
  5. Rhowch nhw yn y ffwrn am tua 10-12 munud tan bod popeth yn chwilboeth.

Awgrym: Mae hwn yn hwyl i blant ac mae’n ffordd wych o ddefnyddio llysiau dros ben o’r oergell.

Share This