Gyoza porc gyda saws soi a tsili melys

  • Amser paratoi 45 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

Ar gyfer crwyn y Gyoza:

  • 300g blawd gwyn cryf
  • ½ llwy de halen
  • 200ml dŵr berw
  • 1 llwy fwrdd olew sesame
  • 1 llwy fwrdd olew llysiau

Ar gyfer y llenwad:

  • 350g mins porc heb lawer o fraster
  • 75g dail Tsieinïaidd, wedi eu torri’n fân
  • 2cm gwraidd sinsir, wedi ei ratio
  • 2 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
  • pupur a halen
  • 3 shibwnsyn, wedi eu torri’n fân
  • pinsiad o haenau tsili neu ½ tsili coch bychan, wedi ei dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd saws wystrys
  • pinsiad o siwgr
  • 1 llwy de blawd corn

Ar gyfer y saws dipio:

  • 2 lwy fwrdd saws soi â llai o halen
  • 3 llwy fwrdd saws tsili melys

Dull

  1. Gwnewch y crwyn gyoza (fel arall, prynwch rai o archfarchnad Asiaidd a dilyn cyfarwyddiadau’r pecyn): hidlwch y blawd mewn powlen fawr, ychwanegu’r halen a defnyddio cyllell i gymysgu’r dŵr berw i mewn yn raddol, nes bod y gymysgedd yn ffurfio toes caled – efallai na fydd angen y dŵr i gyd. Lapiwch y toes mewn cling ffilm a’i roi yn yr oergell am o leiaf 30 munud.
  2. Gwnewch y llenwad drwy gyfuno’r holl gynhwysion, yna rhowch nhw yn yr oergell nes eich bod yn barod i wneud y gyozas.
  3. Rhowch y toes oer ar arwyneb o flawd a’i dylino am 5 munud, yna torrwch yn ei hanner a rholio’r haneri allan mor denau â phosibl.
  4. Gan ddefnyddio torrwr crwn 10cm, torrwch ddisgiau siâp cylch allan o’r toes. Gwnewch gymaint ag sydd eu hangen (bydd y toes yn cadw yn yr oergell am ychydig ddyddiau neu gallwch rewi gyozas sydd heb eu coginio, ond wedi eu llenwi).
  5. I baratoi’r gyozas, daliwch groen gyoza yng nghledr eich llaw ac ychwanegwch lond llwy de o’r llenwad. Gwlychwch yr ymylon gydag ychydig o ddŵr gan ddefnyddio blaenau eich bysedd a selio’r gyoza, gan binsio ar hyd yr ymylon i greu effaith bletiog.
  6. Cynheswch badell ffrio nes ei bod yn boeth ac ychwanegwch sblash o olew sesame a sblash o olew llysiau. Rhowch 5 gyoza yn y sosban ar eu hochrau (mae’n haws eu coginio mewn sypiau i’w hatal rhag llosgi). Unwaith y bydd un ochr yn frown euraid, sefwch y gyoza i fyny i liwio’r gwaelod – dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd. Peidiwch â ffrio’r ochr arall!
  7. Ychwanegwch 3 llwy fwrdd o ddŵr berw i’r badell ffrio’n ofalus, yna gorchuddiwch gyda chaead ar unwaith a choginio/stemio’r gyozas am 2 funud tra eu bod yn dal i sefyll ar eu gwaelod. Yna tynnwch y sosban oddi ar y gwres, gan gadw’r caead ymlaen, a gadewch y gyozas am 2 funud arall i sicrhau bod y llenwad yn cael ei goginio. Cadwch y swp yn gynnes wrth i chi goginio’r gyozas sy’n weddill.
  8. Gwnewch y saws dipio trwy gyfuno’r saws soi a’r saws tsili melys, yna rhowch nhw mewn powlen a’i weini gyda’r gyozas.
Share This