Cyri porc katsu

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 stecen o lwyn porc, heb esgyrn
  • 75g o flawds plaen wedi’i flasuso
  • 1 ŵy mawr, wedi’i guro
  • 25g o friwsion bara panko
  • olew ar gyfer ffrio

Ar gyfer y saws:

  • 1 llwy de o olew llysiau
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
  • 2.5cm o wreiddyn sinsir, wedi’i gratio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy fwrdd o bowdwr cyri
  • 2 lwy fwrdd o flawd plaen
  • 250ml o stoc cyw iâr
  • 1 llwy fwrdd o saws soi
  • 1 llwy fwrdd o fêl

Dull

  1. I wneud y saws: cynheswch yr olew mewn padell a ffrio’r winwnsyn am rai munudau tan y bydd yn meddalu ac yn dechrau newid ei liw. Ychwanegwch y garlleg a’r sinsir a’u coginio am rai munudau.
  2. Ychwanegwch y powdr cyrri a’r blawd a’u cymysgu am funud. Yn araf, ychwanegwch y stoc, gan droi’r gymysgedd yn ddi-baid er mwyn osgoi lympiau.
  3. Ychwanegwch y mêl a’r saws soi. Dewch â’r cymysgedd i’r berw a’i adael i fudferwi am 10 munud. Efallai y bydd angen i chi ychwanegu rhagor o ddŵr os bydd y cymysgedd yn eithaf trwchus.
  4. Os ydych am gael saws llyfn, defnyddiwch flendiwr.
  5. Paratowch y porc trwy ei lapio’n llac mewn cling ffilm a’i daro’n ysgafn â rholbren er mwyn gwneud y stêcs ychydig yn fwy tenau.
  6. Rhowch y blawd, yr wy a’r briwsion bara mewn tair powlen neu blât bas gwahanol.
  7. Dipiwch y stêcs porc yn y blawd, yna yn yr wy, ac yn olaf yn y briwsion bara, gan sicrhau eu bod wedi’u gorchuddio i gyd.
  8. I’w coginio, cynheswch yr olew ychydig mewn padell ffrio a choginio’r stêcs porc ar wres isel-canolig – tua 8 munud ar bob ochr.
  9. Gweinwch y cig gyda reis gludiog a’r saws cyrri katsu blasus, ynghyd â salad crensiog neu golslo hyfryd.
Share This