Pam prynu PGI?

Mae Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, neu PGI, yn ffordd o gydnabod ardal ddaearyddol benodol sy’n cynhyrchu bwyd a diod o ansawdd da.

Mae hyn yn golygu bod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru PGI yn wahanol ac mae ganddo nodweddion, blasau a gweadau arbennig sy’n unigryw i Gymru ac na ellir eu hefelychu yn unrhyw le arall.

Tirwedd

Ers canrifoedd, mae amaethyddiaeth Cymru wedi gweithio mewn cytgord â’r amgylchedd naturiol ac wedi chwarae rhan allweddol wrth greu a chynnal tirweddau a chynefinoedd ysblennydd ar gyfer bywyd gwyllt. Hyd heddiw mae’n ymroddedig i ddyfodol cynaliadwy.

Mae ein tirwedd a digonedd o law yn helpu i greu glaswellt a grugoedd ysgafn sy’n rhoi blas unigryw i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, a gyda mwy na thri chwarter o dir Cymru wedi’i neilltuo ar gyfer ffermio da byw, rydyn ni’n genedl sy’n gwybod beth rydyn ni’n ei wneud – ac rydyn ni wrth ein bodd yn ei wneud!

Treftadaeth

Mae canrifoedd o ddulliau hwsmonaeth draddodiadol wedi cael eu trosglwyddo trwy’r cenedlaethau, felly gallwch chi fod yn hyderus bod modd olrhain ŵyn yn llwyr a’u bod yn cael eu geni a’u magu mewn cartrefi hapus, iach yng Nghymru. Efallai bod ffermio wedi esblygu a datblygu dros y blynyddoedd, ond mae’r ffermwr a’r ci yn dal i sefyll ochr yn ochr â’u anifeiliaid.

Blas

Mae pobl, tarddiad a blas i gyd yn gynhwysion sydd wrth galon Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfuno i sicrhau eich bod chi’n mwynhau cig o’r ansawdd gorau o Gymru, bob tro. Mae popeth yn y broses gynhyrchu o’r ansawdd gorau ac yn cael yr amser mae’n ei haeddu – oherwydd ni ellir rhuthro ansawdd. Gellir blasu’r canlyniad.

Share This