Golwythion lwyn Cig Oen Cymru a mint

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4-6 o olwythion lwyn Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 llwy de o olew olewydd
  • 2 lwy fwrdd o jeli mint
  • 1 llwy fwrdd o olew llysiau
  • 25g o fenyn
  • 900g o datws newydd, wedi’u coginio a’u torri’n hanner
  • 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu’n fân
  • 100g o fadarch cymysg

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1871 KJ
  • Calorïau: 445 kcals
  • Braster: 20 g
  • Sy’n dirlenwi: 8.0 g
  • Halen: 0.5 g
  • Haearn: 3.0 mg

Dull

  1. Rhowch halen a phupur ar y golwythion a’u rhoi ar badell grilio. Rhowch nhw o dan gril wedi’i dwymo’n barod a’u coginio am 8-10 munud bob ochr tan eu bod yn frown ac wedi’u coginio’n drylwyr.
  2. Bum munud cyn diwedd y cyfnod coginio, cymysgwch yr olew olewydd a’r jeli mint mewn dysgl fach nes eu bod wedi cyfuno ac yn feddal.
  3. Rhowch lwyaid o’r gymysgedd olew a mint ar ben y golwythion, a’u rhoi yn ôl o dan y gril nes eu bod yn frown.
  4. Yn y cyfamser, rhowch yr olew llysiau a’r menyn mewn padell a’u meddalu. Ychwanegwch y tatws newydd wedi’u coginio, y garlleg a’r madarch i’r badell. Coginiwch nes bod y tatws yn frown a chrensiog, a’r madarch wedi meddalu.
  5. Gweinwch gyda salad tymhorol a thaenwch lwyaid o sudd o’r badell dros y cwbl.
Share This