Yn addas i’w goginio’n araf ar yr hob neu yn y popty. Os byddwch yn defnyddio’r popty, ewch ati i’w chynhesu ymlaen llaw i 180°C/Marc Nwy 5.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a ffriwch y porc wedi’i ddeisio hyd nes y bydd wedi brownio. Codwch y cig o’r badell.
- Yn yr un badell ffrio, ffriwch y winwns a’r garlleg hyd nes y byddant wedi’u brownio’n ysgafn. Ychwanegwch y cig yn ôl at y badell.
- Ychwanegwch y sbeis gan ei droi am rai munudau. Yna, ychwanegwch y tomatos, y stoc, y syltanas a’r bricyll. Arllwyswch y cymysgedd i sosban â chaead os byddwch yn ei fudferwi ar yr hob, neu i ddysgl dal gwres os byddwch yn ei goginio yn y popty.
- Coginiwch am 1½-2 awr hyd nes y bydd y cig yn dyner.
- Codwch y caead ac ychwanegwch y cwscws, y ffacbys a’r oren. Parhewch i’w goginio hyd nes y bydd yr holl hylif wedi cael ei amsugno – tua 20 munud.
- Gweinwch gyda phinsiad o naddion almon.