Ysgwydd Cig Oen Cymru blas cyri

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 3 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1 ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, sydd tua 2.5kg
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
  • 2 glof o arlleg, wedi’u torri
  • Darn 2½cm o wreiddyn sinsir, wedi’i bilio a’i dorri
  • 2 lwy fwrdd o garam masala neu bowdwr cyri canolig
  • 1 llwy de o bowdwr tsili
  • 400g o domatos tun, wedi’u torri
  • 400g o ffacbys tun
  • 300ml o stoc cig oen
  • 2 daten fawr, wedi’u golchi a’u torri’n giwbiau mawr
  • 2 lond llaw fawr o sbigoglys

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2353 KJ
  • Calorïau: 566 kcals
  • Braster: 40 g
  • Sy’n dirlenwi: 17.9 g
  • Halen: 0.75 g
  • Haearn: 3.75 mg

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C / Nwy 4.
  2. Cynheswch badell rostio fawr ar y hob ac ychwanegwch olew, winwnsyn, garlleg a sinsir. Ychwanegwch yr ysgwydd cig oen a’i brownio’n dda.
  3. Ychwanegwch y sbeisys a gorchuddio’r cig yn dda ynddynt. Ychwanegwch y tomatos, ffacbys, stoc a thatws. Codwch ef i’r berw, ei orchuddio â ffoil a’i roi yn y ffwrn a gynheswyd ymlaen llaw.
  4. Coginiwch am tua dwy awr hyd nes bod y cig yn cwympo oddi ar yr asgwrn. Ychwanegwch y sbigoglys pan fydd ond 10 munud o amser coginio ar ôl a gadewch iddo wywo ychydig.
  5. Gweinwch mewn darnau gyda bara Indiaidd neu reis wedi’i stemio.
Share This