Enillwch hamper Cig Oen Cymru PGI o ansawdd!

Mae’r cynnyrch premiwm hwn wedi cael Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI – Protected Geographical Indication) oherwydd bod pobl, tarddiad a blas i gyd yn gynhwysion sydd wrth wraidd ein stori Cig Oen Cymru PGI. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfuno i sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r cig o’r ansawdd gorau o Gymru, bob tro.

Dyna pam rydyn ni’n cynnig hamper sy’n cynnwys amrywiaeth o ddarnau i ddangos hyblygrwydd y cig maethlon hwn i chi. Bydd y bocs yn cynnwys wyth darn gwahanol, yr unig derfyn yw eich dychymyg…

Beth allwch chi ei ennill

Un bocs o hanner Cig Oen Cymu PGI, sy’n cynnwys y canlynol:

  • 1 x Brest Cig Oen
  • 1 x Ffiled Gwddf Cig Oen
  • 1 x Rag Cig Oen
  • 1 x Ysgwydd Cig Oen
  • 2 x Hanner Coes Cig Oen
  • 2 x Cylch Gwddf Cig Oen
  • 4 x Byrgyr Cig Oen
  • 8 x Golwyth Cig Oen

Sut i gystadlu

I ennill y wobr wych hon, atebwch y cwestiwn canlynol a nodwch eich manylion isod.

    Am beth mae PGI yn Cig Oen Cymru PGI yn sefyll?

    Protected Geographical IndicationPretty Great IngredientProtected Good Ingredient

    Share This