Pastai Cig Oen Cymru dydd Llun

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 300g Cig Oen Cymru PGI dros ben
  • 10g moron dros ben, wedi’u deisio
  • 200g llysiau dros ben eraill (brocoli, erfin/rwdins, tatws)
  • 1 nionyn mawr, wedi’i dorri
  • 100g pys wedi’u rhewi
  • 250ml grefi parod
  • 1 llwy fwrdd jeli cyrens coch
  • Sbrigau rhosmari, wedi’u torri’n fân
  • 6 dalen crwst filo
  • 25 g menyn, wedi’i doddi
  • 1 llwy fwrdd olew

Dull

Pastai hynod o hawdd o fwyd dros ben dydd Sul!

 

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell, ac yna ychwanegwch y nionyn a’i ffrio nes ei fod yn feddal. Ychwanegwch y cig oen a’r llysiau, a’u cynhesu nes eu bod yn chwilboeth. Trowch y pys, y grefi, y jeli cyrens coch a’r rhosmari i mewn i’r cymysgedd.
  3. Trosglwyddwch y cynhwysion i ddysgl bopty.
  4. Brwsiwch y dalennau filo yn ysgafn gyda’r menyn wedi’i doddi a gwasgwch y crwst yn ysgafn dros y cynhwysion.
  5. Brwsiwch weddill y menyn dros y cyfan a rhowch y bastai yn y popty am 20 munud, a’i choginio nes y bydd yn frown euraidd.
Share This